Neidio i'r prif gynnwys
/

Telerau Defnydd

Eiddo Deallusol

Mae’r holl destun, graffeg, rhyngwynebau defnyddiwr, rhyngwynebau gweledol, nodau masnach, logos, seiniau, cerddoriaeth, gwaith celf a chod cyfrifiadurol (gyda’i gilydd, “Cynnwys”), gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ddyluniad, strwythur, detholiad, cydlyniant, mynegiant, “golwg a theimlad” a threfniant y fath Gynnwys, a geir ar y Safle yn eiddo i, dan reolaeth neu wedi’i drwyddedu gan neu i ORCHA Healthcare Ltd, cwmni sydd wedi’i gofrestru yn Lloegr, ac wedi’i ddiogelu gan gyfreithiau gwisgoedd masnach, hawlfraint, patent a nodau masnach, a nifer o gyfreithiau hawliau eiddo deallusol a chystadleuaeth annheg. Ac eithrio’r hyn a ddarperir yn benodol yn y Telerau Defnydd hyn, ni chaniateir i unrhyw ran o’r Safle nac unrhyw Gynnwys gael eu copïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, llwytho i fyny, postio, arddangos yn gyhoeddus, amgodio, cyfieithu, trosglwyddo neu ddosbarthu mewn unrhyw fodd (gan gynnwys “adlewyrchu”) i unrhyw gyfrifiadur, gweinydd, neu Wefan arall nac i unrhyw gyfrwng arall ar gyfer cyhoeddi neu ddosbarthu nac ar gyfer unrhyw fenter fasnachol, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan ORCHA. Dylai unrhyw ddarnau o’r wefan a atgynhyrchir at ddibenion anfasnachol gael eu cefnogi gan gydnabyddiaeth lawn a chyfeiriad at ORCHA. Cyhoeddir hyperddolenni i wefannau allanol at ddibenion gwybodaeth a chyfeirio. Nid yw’n unrhyw awgrym o Gymeradwyo eu cynnwys na chysylltiad masnachol. Nid yw ORCHA yn gyfrifol am gywirdeb, amseroldeb na pherthnasedd gwefannau â dolenni o’r fath.

Adolygiad a Gwasanaeth ORCHA

Mae ORCHA yn darparu asesiad gwrthrychol ac annibynnol o Apiau iechyd a meddygol. Gwasanaeth cynghorol nid rheolaethol yw hwn, ond rydym yn cynghori ble gall materion rheolaethol fod yn bwysig ac y dylid eu hystyried ymhellach. Fodd bynnag, yn y pen draw, cyfrifoldeb datblygwyr a/neu gyhoeddwyr Ap ydy canfod a yw’n cydymffurfio â’r holl safonau rheolaethol perthnasol. Adolygiad Sylfaenol ORCHA (“OBR”) ydy lefel asesu gyntaf ORCHA ac mae’n golygu cynnal dadansoddiad ‘pen desg’ manwl o ddatrysiadau Iechyd Digidol gan edrych ar draws holl feysydd allweddol rheoleiddio a chydymffurfio. Cynhelir yr OBR i raddau helaeth yn rhagweithiol fel rhan o waith asesu a monitro parhaus ORCHA ar yr holl farchnad Iechyd Digidol ac rydym yn adolygu’r Apiau a’r datrysiadau Iechyd Digidol cysylltiedig sydd wedi’u lawrlwytho fwyaf a’r rhai a ddiweddarwyd ddiwethaf ar draws 250 o gategorïau a chyflyrau iechyd a gofal. Asesiad yw’r OBR yn bennaf o gydymffurfiaeth Apiau â safonau, rheoleiddio ac arfer da cyfredol (gyda’i gilydd, “Safonau”). Modd cytunedig o wneud rhywbeth ydy safon. Gallai ymwneud â gwneud cynnyrch, rheoli proses, darparu gwasanaeth neu gyflenwi deunyddiau – mae safonau’n gallu cwmpasu ystod enfawr o weithgareddau a gyflawnir gan sefydliadau ac a ddefnyddir gan eu cwsmeriaid. “Safonau ydy doethineb grynodedig pobl sydd ag arbenigedd yn eu maes pwnc ac sy’n adnabod anghenion y sefydliadau y maent yn eu cynrychioli – pobl megis gwneuthurwyr, gwerthwyr, prynwyr, cwsmeriaid, cymdeithasau masnachu, defnyddwyr neu reoleiddwyr.” (Y Sefydliad Safonau Prydeinig) Gall fod arwyddocâd rheoleiddiol iddynt neu gallant ffurfio gofynion nad ydynt yn rheoleiddiol neu arfer orau angenrheidiol mewn awdurdodaeth neu ardal benodol. Y Safonau rydym yn edrych arnynt ar hyn o bryd yn yr OBR ydy:

Data
  • Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2000/36/contents
  • Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a chyfreithiau lleol cysylltiedig sy’n rhoi hwn ar waith yn yr UE.
  • ISO/IEC 27001 – Rheoli diogelwch gwybodaeth Y Ddeddf Diogelu Data
  • DD ISO TS 25237, gwybodeg iechyd – Gosod Ffugenwau
  • GSMA: Canllawiau Cynllunio Preifatrwydd ar gyfer Datblygu Apiau Symudol
  • GSMA: Canllaw Symudol a Phreifatrwydd TCC2, TCC3, DRS4
  • AQUA: Canllawiau Ymarfer Gorau ar gyfer cynhyrchu apiau symudol o ansawdd uchel fersiwn 2.3 – Mehefin 2013
Sicrwydd Clinigol
  • BS EN ISO 14971, Dyfeisiau meddygol – Cymhwyso rheoli risg i ddyfeisiau meddygol
  • Y gyfarwyddeb dyfeisiau meddygol (marc CE ar gyfer dyfeisiau meddygol): cyfarwyddeb y cyngor 93/42/EEC.
  • Canllawiau’r MHRA ar farciau CE ar gyfer meddalwedd ac apiau
  • PAS 277:2015: Apiau iechyd a llesiant – Meini prawf ansawdd ar draws y cylch bywyd – Cod ymarfer a’r Gyfarwyddeb Dyfeisiau Meddygol
  • Deddf Diogelu Defnyddwyr 1987. Llundain: Y Llyfrfa.
Profiad Defnyddwyr

Mae’r OBR yn ceisio asesu perfformiad Ap drwy ei gydymffurfiaeth â’r Safonau hyn. Caiff ein Hadolygiad ei diweddaru’n rheolaidd i adlewyrchu newidiadau i’r Safonau hyn. Po fwyaf y sgôr ORCHA a geir, po fwyaf y mae’r Ap yn cydymffurfio â’r Safonau hyn ac i’r gwrthwyneb. Er nad oes gwarant y bydd Ap sy’n cael sgôr uchel yn effeithiol neu’n ddiogel, ac nad yw Ap sy’n cael sgôr isel o anghenraid yn aneffeithiol neu’n anniogel, mae’n golygu bod y Datblygwr perthnasol wedi cymryd mwy neu lai o ofal ynglŷn a chydymffurfiaeth yr Ap gyda’r Safonau allweddol hyn nag Apiau eraill tebyg. Ym maes allweddol iechyd a gofal, credwn y dylai datblygwyr roi ystyriaeth eithriadol ddifrifol i gydymffurfio â Safonau. Mae rhai Apiau yn ddyfeisiau meddygol yn dechnegol ac ar gyfer dyfeisiau dosbarth iia, iib a iii, mae angen asesiad llawn a Chymeradwyaeth yn yr UE arnynt drwy brosesau dan oruchwyliaeth y cyrff rheoleiddio cenedlaethol megis yr MHRA yn y DU a’r HPRA yn Iwerddon a chyrff rheoleiddio tebyg mewn awdurdodaethau eraill. Ni ddylid rhoi Ap o’r natur hwn ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol nes y bydd wedi cael ei asesu a’i dystysgrifo’n briodol ac mae unrhyw Apiau y gwelwn ni eu bod yn ddyfeisiau meddygol heb eu tystysgrifo yn cael eu heithrio o’n chwiliad cyffredinol ni. Os dewch chi’n ymwybodol o unrhyw anghywirdeb yn y wybodaeth a gyflwynir yn ein Hadolygiadau neu os oes gennych unrhyw bryderon eraill, adroddwch hyn i ni ar unwaith yn feedback@orchahealth.com.Nid yw ORCHA yn hyrwyddo neu’n argymell unrhyw Apiau penodol drwy’r broses hon, ond maent yn darparu gwybodaeth ddiduedd ynglŷn â chydymffurfiaeth Ap â Safonau a dull ble gall defnyddwyr terfynol adnabod yn rhwydd pa Apiau sy’n cydymffurfio orau â’r Safonau hynny a gwirio pa rai sydd ddim.

Gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol

Mae Adolygiadau ORCHA yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir gan ddatblygwyr Ap, yr Ap ei hun a/neu sydd ar gael yn y parth cyhoeddus drwy wefan gysylltiedig neu’r ‘siop apiau’ berthnasol. Rydym yn dibynnu ar y wybodaeth hon wrth gynnal ein hadolygiadau ac nid ydym yn gyfrifol am anghywirdebau neu wallau yn y wybodaeth a ddarperir. Mae Datblygwyr Apiau yn cael eu rheoli yn y rhan fwyaf o awdurdodaethau gan gyfreithiau sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt beidio a gwneud datganiadau camarweiniol neu anghywir am eu cynhyrchion ac os ydych chi o’r farn bod unrhyw wybodaeth a ddarperir trwy’n hadolygiadau ni yn anghywir neu’n gamarweiniol, cysylltwch â ni yn feedback@orchahealth.com a byddwn yn ymchwilio ar unwaith i hynny. Hyd yn oed pan fydd y wybodaeth a ddarperir yn gywir, nid yw ein Hadolygiad yn gallu gwarantu y bydd Ap yn perfformio yn unol â’r hyn a addewir mewn unrhyw amgylchiadau penodol neu fod yr Ap yn glir nawr neu yn y dyfodol rhag unrhyw fygiau neu faterion a allai effeithio ar ei berfformiad. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw effeithiau niweidiol i’r Ap neu’r datrysiad Iechyd Digidol dan sylw.

Data a Phreifatrwydd

Cedwir pob data yn unol â thelerau'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a’r holl gyfreithiau Diogelu Data cenedlaethol cysylltiedig yn yr UE. Mae’r diben a’r sail gyfreithlon ar gyfer casglu data gan ORCHA wedi’i amlinellu yn ein Polisi Preifatrwydd ac ni chesglir unrhyw ddata personol heb gydsyniad y defnyddiwr, sydd yn fodel optio i mewn. Gellir cael gwybod sut rydym yn defnyddio data, natur y data a gasglwn a’n polisïau ynglŷn â chadw a chludadwyedd oll drwy Bolisi Preifatrwydd ORCHA.

Gofal a Chyngor Meddygol/Proffesiynol

Ni fwriedir i’r cynnwys ar ein gwefan gymryd lle gofal meddygol proffesiynol gan feddyg cymwys neu weithiwr proffesiynol gofal iechyd addas arall (“Gweithiwr Proffesiynol“). Dylech wirio bob amser gyda’ch Gweithiwr Proffesiynol os oes gennych unrhyw bryderon am eich iechyd, eich cyflwr neu unrhyw driniaeth rydych chi’n ei chymryd neu’n bwriadu ei chymryd. Os cewch chi Argymhelliad ar gyfer Ap gan Weithiwr Proffesiynol drwy lwyfan a bwerir gan ORCHA, mae’r Argymhelliad yn cael ei wneud ar sail barn y Gweithiwr Proffesiynol dan sylw ynglŷn ag addasrwydd Ap ar gyfer eich anghenion penodol chi a’r wybodaeth a ddarperir gan ORCHA y mae’r Gweithiwr Proffesiynol yn dibynnu arni. Mae Adolygiad a Sgôr ORCHA yn eu tro yn ddibynnol ar gywirdeb y wybodaeth a ddarperir gan Ddatblygwyr yr Ap eu hunain. Nid yw naill ai’r Gweithiwr Proffesiynol nac ORCHA yn gyfrifol am anghywirdebau neu wallau yn y wybodaeth honno. Hyd yn oed pan fydd y wybodaeth a ddarperir yn gywir, nid yw’r Adolygiad ORCHA yn gallu gwarantu y bydd Ap yn perfformio yn unol â’r hyn a addewir mewn unrhyw amgylchiadau penodol neu fod yr Ap yn glir nawr neu yn y dyfodol rhag unrhyw fygiau neu faterion a allai effeithio ar ei berfformiad ac ni ellir dal naill ai’r Gweithiwr Proffesiynol nac ORCHA yn gyfrifol am faterion sy’n codi yn yr amgylchiadau hynny. Os ydych yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol, bwriedir i’r wefan hon gefnogi a gwella eich barn a’ch gwybodaeth eich hun, ond nid i gymryd eu lle.

Cyffredinol

Ni chewch ddefnyddio’r wefan hon at ddibenion anghyfreithlon, mewn unrhyw fodd sy’n groes i gyfraith neu reoliad Perthnasol. Ni chewch ddefnyddio ein cynnwys mewn modd twyllodrus nac at ddiben cynhyrchu negeseuon e-bost sbam na ofynnwyd amdanynt neu feirysau cyfrifiadurol. Mae’r Telerau ac Amodau hyn dan awdurdodaeth cyfraith Lloegr. Cadwn yr hawl i newid ein Telerau ac Amodau unrhyw adeg, gan eu bod yn cael eu diweddaru i ateb anghenion sy’n newid ac unrhyw ddeddfwriaeth newydd.