Neidio i'r prif gynnwys
/

Cwestiynau Cyffredin

Pwy yw ORCHA?

AYn y Sefydliad Adolygu Apiau Iechyd a Gofal (ORCHA), rydym wedi bod yn asesu apiau iechyd a gofal, a chynhyrchion iechyd digidol, ers 2015. Mae asesu yn golygu gofyn cwestiynau am ap iechyd neu gofal, neu gynnyrch iechyd digidol, er mwyn gweld a yw’n bodloni safonau yn y pum prif faes canlynol:

  • Data a phreifatrwydd - Pa mor ddiogel ydy eich gwybodaeth breifat, a beth sy’n digwydd i’r wybodaeth honno
  • Sicrwydd proffesiynol a diogelwch clinigol - A ydy gweithiwr proffesiynol iechyd neu gofal yn meddwl ei fod yn ddiogel ac yn gallu cynorthwyo’ch iechyd, ac a oes tystiolaeth i gefnogi hynny
  • Defnyddioldeb a hygyrchedd - Pa mor hawdd ydy ei ddefnyddio o ystyried oedran a gallu unigolyn
  • Y gallu i ryngweithredu - Pa mor dda mae’n gallu cysylltu â system bresennol
  • Diogelwch a sefydlogrwydd technegol - Pa mor dda mae’n gweithio ac a oes modd ei hacio

Rydym hefyd yn creu systemau ar gyfer rhannu'r wybodaeth rydyn ni’n ei chanfod ynglŷn ag apiau iechyd neu ofal a chynhyrchion iechyd digidol. Yn eu plith mae llyfrgelloedd iechyd digidol (Llyfrgelloedd Apiau), fformiwlariau a phecynnau offer. Mae hyn yn helpu i roi’r hyder i weithwyr proffesiynol iechyd neu ofal y gallant ei hargymell i chi. Fel arbenigwyr mewn safonau iechyd digidol, rydym yn gweithio gyda llywodraethau i greu eu safonau cynhyrchion digidol eu hunain ar gyfer gwledydd ym mhob rhan o’r byd. Er enghraifft, bu ORCHA yn helpu i ddatblygu’r Fframwaith Asesu Iechyd Digidol (DHAF) yn yr Unol Daleithiau, mewn cydweithrediad â Choleg Americanaidd y Ffisegwyr (ACP) a Chymdeithas Telefeddygaeth America (ATA). Drwy ein proses asesu, rydym hefyd yn helpu darparwyr iechyd digidol, gan gynnwys datblygwyr apiau, i greu neu wella eu hapiau iechyd neu ofal a’u cynhyrchion iechyd digidol. Yn ORCHA rydym eisiau sicrhau bod iechyd digidol yn ddiogel, yn gynaliadwy ac yn hawdd i’w gyrchu i bawb a allai gael budd o’i ddefnyddio.

Beth yw Llyfrgell Apiau?

Rhywle lle gallwch chi ganfod apiau iechyd neu ofal a chynhyrchion iechyd digidol sy’n gallu’ch cefnogi chi gyda’ch iechyd a’ch llesiant ydy Llyfrgell Apiau. Gallwch chi ddarllen gwybodaeth fanwl am bob ap neu gynnyrch iechyd digidol, sy’n seiliedig ar brofion (asesiadau) a gynhaliwyd gan ORCHA. Bydd eich darparwr neu sefydliad gofal iechyd yn gallu gweld popeth yn y Llyfrgell Apiau os oes ganddynt Gyfrif Pro a gallant awgrymu neu argymell ap i chi. Neu gallwch chi chwilota drwy’r Llyfrgell Apiau a dewis un neu fwy o apiau i chi’ch hun. Mae Llyfrgell Apiau yn ei gwneud yn haws i chi sicrhau eich bod yn lawrlwytho, neu’n edrych ar wefan yr ap cywir y byddech chi am ei ddefnyddio. Rydyn ni’n gwneud pob ymdrech i wneud yn siŵr bod y Llyfrgell Apiau’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf. Er mwyn sicrhau hynny, mae angen i’r holl apiau gael eu hasesu gan ORCHA a’u diweddaru o leiaf unwaith y flwyddyn.

Sut gallaf fi ddefnyddio’r Llyfrgell Apiau hwn?

I ddefnyddio’r Llyfrgell Apiau hwn, gallwch ddefnyddio’r blwch chwilio neu glicio ar yr eiconau ar gyfer y pwnc iechyd y mae gennych ddiddordeb ynddo. Chwilotwch drwy gardiau’r apiau a chwiliwch am apiau iechyd neu ofal a allai’ch cefnogi chi gyda’ch iechyd a’ch llesiant. Gallwch chi ddewis a lawrlwytho’r ap os yw ar gael yn yr Apple App Store neu Google Play. Os mai ap gwe yw’r ap, gallwch glicio i fynd i’r wefan ble mae’r ap. Mae eich darparwr neu sefydliad gofal iechyd hefyd yn gallu argymell neu awgrymu ap yn uniongyrchol i chi. Wedyn gallwch chi ddarllen gwybodaeth am yr ap yn y Llyfrgell Apiau hwn er mwyn penderfynu a yw’n iawn i chi. Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol iechyd neu ofal, bydd angen i’ch sefydliad roi manylion mewngofnodi i chi ar gyfer Cyfrif Pro i chi gael defnyddio’r Llyfrgell Apiau hwn ac argymell apiau i’ch cleifion neu ddefnyddwyr eich gwasanaeth.

Pwy ddewisodd yr apiau yn y Llyfrgell Apiau hwn?

Eich darparwr gofal neu sefydliad iechyd sydd wedi dewis yr apiau sydd yn y Llyfrgell Apiau hwn. Mae’r holl apiau yn y Llyfrgell Apiau hwn wedi’u profi (asesu) gan ORCHA sydd yn arbenigwyr ar wirio bod apiau yn ddiogel i chi. Nid ORCHA sy’n dewis pa apiau sy’n mynd i’r Llyfrgell Apiau, a does neb yn gallu talu ORCHA i roi eu hap mewn Llyfrgell Apiau heb brawf (asesiad).

Pam mae angen i apiau gael eu profi neu eu hasesu?

Mae angen i apiau iechyd a gofal, neu gynhyrchion iechyd digidol, gael eu profi (asesu) i wneud yn siŵr y byddant yn ddiogel i chi eu defnyddio. Mae nifer o gwestiynau y mae angen i ni eu hateb ynglŷn ag ap cyn y bydd modd iddyn nhw gael eu hargymell yn ddiogel i chi gan eich darparwr iechyd neu ofal. Mae hynny’n cynnwys cwestiynau fel:

  • Ar gyfer beth mae’r ap wedi’i wneud?
  • A fydd yr ap hwn yn gweithio ar gyfer eich anghenion iechyd neu ofal?
  • Pwy sy’n gallu ei ddefnyddio a pha mor hawdd ei ddefnyddio ydyw?
  • A fydd fy ngwybodaeth (data) preifat yn ddiogel?
  • Pwy wnaeth yr ap ac ydyn ni’n gallu ymddiried yn eu hymchwil?
  • Ydy fy meddyg neu ddarparwr gofal yn gallu gweld beth rydw i’n ei wneud ar yr ap fel bod modd iddyn nhw fy nghefnogi tra byddaf yn ei ddefnyddio?

Mae’n bwysig gofyn y cwestiynau hyn, a llawer mwy, er mwyn cael gwybod cymaint ag y gallwn am ap iechyd neu ofal. Y rheswm am hyn ydy bod defnyddio ap iechyd neu ofal yn gallu effeithio ar eich iechyd ac rydyn ni am i’ch profiad fod mor ddiogel â phosib.

A fydd fy meddyg yn gwybod os byddaf fi’n defnyddio’r Llyfrgell Apiau hwn?

Os yw’ch meddyg neu’ch darparwr gofal yn defnyddio’r Llyfrgell Apiau hwn ac yn argymell apiau i chi, byddan nhw’n gwybod eich bod yn defnyddio’r Llyfrgell Apiau hwn. Fel arall, fyddan nhw ddim yn gwybod. Gallwch chi lawrlwytho neu fynd i wefan unrhyw apiau y byddwch chi’n eu gweld yn y Llyfrgell Apiau hwn. I helpu i’ch cefnogi gyda’ch gofal, gallai fod yn syniad da i chi roi gwybod i’ch meddyg pa apiau rydych chi’n eu defnyddio. Wedyn gallan nhw argymell apiau eraill, neu rai gwell, a allai’ch helpu chi.

Ydy’r holl apiau yn y Llyfrgell Apiau hwn ar gael i’w defnyddio’n ddi-dâl?

Mae llawer o’r apiau yn y Llyfrgell Apiau hwn ar gael i’w defnyddio’n ddi-dâl, ond mae’n bosib y bydd angen talu am rai ohonynt. Bydd modd naill ai i chi neu i’ch darparwyr iechyd dalu am gost ap. Mae dwy ffordd y gall fod angen talu am ap. Y ffordd gyntaf ydy talu am bethau o fewn ap. Mae hynny’n golygu bod rhan o’r ap ar gael i’w defnyddio’n ddi-dâl a bydd talu am bethau yn yr ap yn rhoi nodweddion ychwanegol i chi a allai wella’ch profiad wrth i chi ei ddefnyddio. Yr ail ffordd ydy pan fydd angen talu am bob rhan o ap. Yn yr achos hwn, gallwch chi dalu i’w ddefnyddio eich hun. Ond os bydd eich darparwr gofal iechyd yn penderfynu eu bod am dalu amdano, yna byddant yn rhoi cod i chi gael mynediad i’r ap yn ddi-dâl. Mae rhai apiau lle nad oes modd i chi dalu i’w ddefnyddio eich hun, hyd yn oed os yw’n ddi-dâl, a dim ond darparwr gofal iechyd sy’n gallu rhoi mynediad i chi i’r ap hwnnw.

Beth ddylwn i ei wneud os bydd gennyf gwestiwn neu bryder ynglŷn ag ap yn y Llyfrgell Apiau hwn?

Rydym yn deall y gall fod adegau pan fydd gennych gwestiwn neu bryder ynglŷn ag ap yn y Llyfrgell Apiau hwn. Anfonwch e-bost aton ni yn hello@orchahealth.com unrhyw bryd, a byddwn ni’n falch o’ch helpu chi.

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ein nod yw darparu gwasanaeth o safon uchel lle mai lles a chysur cleifion yw ein prif flaenoriaeth.

Rydym yn croesawu eich adborth ar ddefnyddio'r gwasanaeth hwn. Rydym yn gwerthfawrogi eich sylwadau ar yr hyn y gallem ei wneud i wella'r llyfrgell apiau iechyd digidol. Bydd eich sylwadau yn ddienw.

Ewch i'r ddolen isod i gwblhau ein harolwg byr:
Dechrau arolwg