Neidio i'r prif gynnwys
/

Amdanom ni

Mae Apiau Iechyd yn gyfle gwych i ddarparu gwybodaeth iechyd bwysig i bobl yn eu cartrefi a’u cymunedau,gan helpu i gefnogi pobl i reoli eu cyflyrau iechyd (e.e. asthma, cyflyrau iechyd meddwl) a byw bywydau iachach a hapusach trwy ymarfer corff a byw’n iach. Mae miloedd o apiau iechyd gwahanol ar gael ar-lein ond gall fod yn anodd adnabod y rhai sy'n hawdd eu defnyddio ac sy'n darparu buddion iechyd gwirioneddol. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'n timau clinigol i nodi apiau iechyd y byddant yn eu hargymell i gleifion sy'n derbyn neu'n aros am driniaeth, i helpu i wella canlyniadau iechyd a rheoli rhai cyflyrau hirdymor.

Mae ORCHA yn cynnal adolygiadau annibynnol o apiau sy'n ymwneud ag iechyd a gofal yn rheolaidd, a byddwch yn gweld bod y wybodaeth hon yn cael ei chyflwyno'n glir ledled y llyfrgell apiau. Gallwch fod yn dawel eich meddwl bod unrhyw apiau a ddangosir ar y wefan hon wedi mynd trwy broses adolygu drylwyr.Dim ond yr apiau iechyd â'r sgôr uchaf fydd yn cael eu dangos i chi ar y wefan.

Drwy gael y wybodaeth hon ar flaenau eich bysedd, mae bellach yn bosibl nodi a chymharu’r apiau gorau ar gyfer eich anghenion a sicrhau y gallwch chi, eich ffrindiau a’ch teulu gael mynediad at apiau iechyd o ansawdd uchel sy’n cael eu hadolygu gan glinigwyr a chleifion.

Bydd yr apiau a ddangosir hefyd wedi cael eu gwirio am ddiogelwch data a phrofiad y defnyddiwr - gan roi sicrwydd bod yr apiau a ddewiswch o ansawdd uchel.

Gall unrhyw un ddefnyddio ORCHA, mae'n rhad ac am ddim ac nid oes angen i chi greu cyfrif. Os ydych chi am arbed manylion eich hoff apiau, neu os ydych chi'n defnyddio ORCHA gyda gweithiwr iechyd proffesiynol gallwch greu cyfrif i olrhain eich argymhellion, ffefrynnau a lawrlwythiadau apiau.

I ddysgu mwy am broses a chamau adolygu ORCHA, ewch i:https://biphdd.gig.cymru/digidol/llyfrgellapiau/