Apiau ar gyfer fy iechyd a llesiant
Apiau a ddewiswyd i'ch cadw'n iach y gaeaf hwn.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymuno ag ORCHA (Y Sefydliad ar gyfer Adolygu Apiau Gofal ac Iechyd) i ddewis sawl ap iechyd digidol diogel i gefnogi eich iechyd y gaeaf hwn. Gall tywydd oer a chwilod y gaeaf effeithio bob un ohonom, ond mae ffyrdd y gallwn gymryd camau i geisio cadw'n iach trwy fisoedd y gaeaf.
Dyma ddetholiad o apiau a ddewiswyd i'ch helpu i reoli pryderon iechyd cyffredin ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn. Gall apiau fod yn ffynhonnell wych o wybodaeth, cyngor ac ysgogiad.
Edrychwch ar y detholiad isod a lawrlwythwch un heddiw.
.
Mental Health
Respiratory
Healthy Living
Absolutely free
.
Mental Health
Respiratory
Healthy Living
Absolutely free
.
Mental Health
Respiratory
Healthy Living
Absolutely free
.
Mental Health
Respiratory
Healthy Living
Absolutely free
.
Mental Health
Respiratory
Healthy Living
Absolutely free
.
Mental Health
Respiratory
Healthy Living
Absolutely free
SilverCloud - Gwneud Lle i Feddyliau Iach
Mae SilverCloud yn darparu ystod eang o raglenni, offer a thactegau cefnogol a rhyngweithiol ar gyfer materion iechyd meddwl ac ymddygiadol. Mae'r rhaglenni hyn yn gallu cefnogi â lles, cydbwysedd bywyd, rheoli amser, sgiliau cyfathrebu, gosod nodau, cyfathrebu a rheoli perthnasoedd, rheoli dicter, rheoli straen, ymlacio a rheoli cwsg, ymhlith llawer o rai eraill.
Mae cynnwys Silvercloud yn gwbl seiliedig ar dystiolaeth ac yn dilyn arfer gorau wrth ei gyflwyno. Mae ymchwil drylwyr wedi'i wneud i nodi'r sylfaen fwyaf priodol ar gyfer y cynnwys effeithiol hwn sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Rydym yn gyffrous i'ch hysbysu bod cost yr ap iechyd hwn bellach AM DDIM er eich budd chi ac ar gael i holl gleifion Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Cliciwch ar y botwm 'Lawrlwytho' isod lle byddwch yn cael eich ailgyfeirio i wefan Silver Cloud Cymru i gofrestru ar gyfer eich cyfrif rhad ac am ddim.
Gwasanaethau/ Gweinyddiaeth
Iechyd Meddwl
Rhad ac am ddim i'w lawrlwytho
86%
Lefel 4
85%
Lefel 4
RHAD AC AM DDIM I'W LAWRLWYTHO
Apiau i'ch helpu i reoli eich diabetes
Mae apiau iechyd digidol i ddarparu cymorth ar gyfer atal, trin, a rheoli diabetes a gofalu am y cyflwr yn esblygu'n gyflym. Gall offer iechyd digidol wella trefn ddyddiol yr unigolyn o reoli ei diabetes trwy symleiddio'r gofal a'r cymorth. Ynghyd ag ORCHA (y Sefydliad Adolygu Apiau Gofal ac Iechyd), mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dewis sawl ap i’ch helpu a'ch cefnogi i reoli eich diabetes.
Llyfrgell Apiau Iechyd Digidol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - galluogi a gwella mynediad i gymwysiadau digidol i gefnogi ein timau clinigol a chleifion gyda'u hiechyd a'u lles
Gan weithio mewn partneriaeth ag ORCA (Sefydliad Adolygu Gofal ac Apiau Iechyd), mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Digidol wedi creu llyfrgell Cymwysiadau Iechyd Digidol lle gall clinigwyr argymell apiau i gleifion a gall cleifion ddod o hyd i apiau i gefnogi eu hiechyd a’u lles gyda sicrwydd eu bod yn ddilys ac wedi cael eu hadolygu gan y gymuned glinigol. Mae ORCHA yn adolygu apiau o'r fath yn erbyn 350+ o feini prawf sy'n ymwneud â Sicrwydd Clinigol/Proffesiynol, Data a Phreifatrwydd, a Defnyddioldeb a Hygyrchedd.
Er y gall apiau fod yn ffordd wych o reoli iechyd a lles, mae yna filoedd ar gael felly gall dod o hyd i'r un iawn fod yn ddryslyd ac mae'n anodd gwybod pa rai sydd wedi'u creu gyda mewnbwn clinigol. Bydd y llyfyrgell apiau yn cynorthwyo clinigwyr a chleifion i chwilio a chymharu apiau sydd yn ddiogel ac yn effeithiol.
Gall cymwysiadau iechyd fod yn ffordd wych o reoli iechyd a lles a gallant helpu i gefnogi cleifion a defnyddwyr gwasanaeth gyda heriau iechyd cyffredin.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalennau rhyngrwyd a chymorth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda isod:
Waiting List Support Service WLSS - Hywel Dda University Health Board (nhs.wales)
Preparing for Treatment - Lifestyle advice - Hywel Dda University Health Board (nhs.wales)
Lifestyle Apps and resources - Hywel Dda University Health Board (nhs.wales)