Neidio i'r prif gynnwys
/

Diweddarwyd Ddiwethaf: 31ain Ion 2023

Polisi Preifatrwydd

Egwyddorion Diogelu Data ORCHA

Hywel Dda University Health Board ydy rheolwr y data, o safbwynt Deddf Diogelu Data 2018. Fel Prosesydd y Data, mae ORCHA yn parchu preifatrwydd a chyfrinachedd pob defnyddiwr sy’n ymwneud â llwyfan Adolygu Apiau ORCHA, neu sefydliadau sy’n ymwneud â gwaith partneriaeth neu waith prosiect gydag ORCHA. Mae ORCHA yn ymdrechu i sicrhau bod yr holl ddata a rennir gyda ni, fel Prosesydd Data, yn cael eu trin â pharch llwyr tuag at breifatrwydd personol a chleientiaid, ac yn cael ei ddiogelu yn unol â’r holl gyfrifoldebau cyfreithiol a’r safonau a’r prosesau ymarfer gorau a gydnabyddir. Bydd Hywel Dda University Health Board yn casglu dim ond y lefelau lleiaf o ddata personol sy’n angenrheidiol i gefnogi ein prosesau gweithredol ac ni fyddant fyth yn rhannu, nac yn gwerthu, data y byddai modd eu defnyddio i adnabod unigolion a gasglwyd wrth gynnal ein prosesau busnes heb ofyn am a derbyn cydsyniad cwbl wybodus gan unrhyw rai o ddefnyddwyr y llwyfan neu gleientiaid, y gallai gweithredu yn y fath fodd effeithio arnynt.

Pam rydym yn cyhoeddi’r polisi hwn?

Cyhoeddir y Polisi Preifatrwydd Data hwn er mwyn cydymffurfio â darpariaethau Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data Y DU (GDPR Y DU), a Deddf Diogelu Data 2018. Mae Hywel Dda University Health Board hefyd yn cyhoeddi’r polisi hwn:

  • er mwyn sicrhau bod yr holl brosesau cipio data, rheoli data a defnyddio data yn dryloyw i’n defnyddwyr terfynol
  • er mwyn esbonio’n eglur pa ddata rydym yn eu casglu
  • er mwyn esbonio sut mae Hywel Dda University Health Board yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol y mae ein defnyddwyr terfynol yn ei darparu i ni
Sut rydym yn casglu gwybodaeth

Mae Hywel Dda University Health Board yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch chi pan fyddwch chi, er enghraifft:

  • wedi cofrestru gyda ni i fod yn Ddefnyddiwr Pro ar gyfer safle llwyfan Hywel Dda University Health Board
  • yn cyflawni gweithredoedd ar safle’r llwyfan megis:
    • Argymell Ap i ddefnyddiwr arall, os yw’r swyddogaeth honno ar gael i chi
    • Ymweld â thudalennau gwe ar safle’r llwyfan
    • Cwblhau gweithredoedd penodol ar un o dudalennau gwe’r llwyfan – e.e. Clicio ar y botwm ‘Lawrlwytho Ap’
    • Dilyn a chwblhau modiwlau yn Academi Iechyd Digidol gysylltiedig ORCHA
  • cwblhau arolwg
  • cymryd rhan mewn digwyddiad neu gystadleuaeth sydd dan arweiniad y llwyfan
  • darparu gwybodaeth bersonol i ni mewn unrhyw fodd arall
  • ymholi am yr ymgyrchoedd codi arian y byddwn yn eu cynnal

Mae angen yr holl weithredoedd hyn er mwyn galluogi Hywel Dda University Health Board i weithredu fel rheolwr data ac ORCHA i ddarparu ei wasanaethau fel Prosesydd Data. Dim ond y nifer lleiaf o eitemau data y mae eu hangen ar gyfer darparu’r gwasanaethau hynny y bydd Hywel Dda University Health Board yn eu cipio.Caiff yr holl ddata a gaiff eu cipio drwy eich rhyngweithrediadau â’r llwyfan eu cadw’n ddiogel mewn cronfeydd data a ddiogelir ac sy’n agored i ddefnyddwyr gweinyddol wedi’u hachredu sydd â chaniatâd mynediad penodol yn unig gael mynediad iddynt.Mae data a drosglwyddir rhwng tudalennau gwe’r llwyfan a’r storfeydd data a ddefnyddir gennym wedi’i amgryptio’n llwyr tra bydd yn cael ei drosglwyddo, yn unol â methodolegau amgryptio ymarfer gorau (amgryptiad 256did wedi’i dystysgrifo) er mwyn lleihau’r risg y gallai’r data hynny gael eu rhyng-gipio neu eu cyrraedd. Mae’r llwyfan yn defnyddio TLS 1.2 i drosglwyddo data’n ddiogel pan fydd yr eitemau’n cael eu cyrchu trwy borwr.Dim ond yr eitemau data personol canlynol y bydd Hywel Dda University Health Board yn eu casglu, gan ddibynnu ar eich rhyngweithrediadau â’r llwyfan:

  • Eich enw
  • Eich cyfeiriad
  • Eich cyfeiriad e-bost, a/neu eich rhif ffôn symudol
  • Gwybodaeth ychwanegol nad yw’n orfodol a ddarparwyd yn wirfoddol gennych chi (e.e. Oed)
  • Y tudalennau y byddwch yn edrych arnynt ar y gwefannau
  • Yr apiau y byddwch yn eu hargymell i eraill
  • Yr apiau y byddwch yn eu lawrlwytho drwy safleoedd y llwyfan
  • Cyfeiriad, enw a rôl swydd Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol perthnasol (os yw’n berthnasol)

Mae llwyfan ORCHA yn defnyddio Google Analytics sy’n casglu’r wybodaeth ganlynol gan holl ddefnyddwyr y llwyfan, yn rhai cofrestredig ac yn rhai heb eu cofrestru:

  • Cyfeiriad IP

Mae gwasanaeth Google Analytics yn ein galluogi i gynnal dealltwriaeth gref o’r modd y caiff y llwyfan ei ddefnyddio er mwyn sicrhau y caiff y llwyfan ei wella’n barhaus i ddefnyddwyr ein llwyfan. Caiff y cyfeiriad IP ei gadw ar wahân i’r holl ddata a gaiff eu cipio gan y llwyfan yn uniongyrchol ac nid oes modd ei ddefnyddio i adnabod unigolyn yn uniongyrchol. I gael rhagor o wybodaeth am y Rheolaethau Preifatrwydd a ddefnyddir yn Google Analytics, ewch i:

https://support.google.com/analytics/answer/6004245?hl=en&ref_topic=2919631

Mae llwyfan ORCHA yn defnyddio Hotjar er mwyn deall anghenion defnyddwyr yn well a darparu’r gwasanaeth a’r profiad gorau. Gwasanaeth technoleg yw Hotjar sy’n ein helpu i ddeall profiad ein defnyddwyr yn well (e.e. faint o amser maen nhw’n ei dreulio ar ba dudalennau, pa ddolenni maen nhw’n dewis clicio arnynt, beth mae defnyddwyr yn ei hoffi a beth nad ydynt, ac ati) ac mae hynny’n ein galluogi i ddatblygu a chynnal ein gwasanaeth gydag adborth gan ddefnyddwyr. Mae Hotjar yn defnyddio cwcis a thechnolegau eraill i gasglu data ynglŷn ag ymddygiad ein defnyddwyr a’u dyfeisiau. Mae hyn yn cynnwys:

  • cyfeiriad IP dyfais (a brosesir yn ystod eich sesiwn ac a gedwir ar ffurf a newidiwyd fel nad oes modd eich adnabod),
  • maint sgrin dyfais, y math o ddyfais (nodau adnabod dyfeisiau unigryw),
  • gwybodaeth am y porwr,
  • lleoliad daearyddol (gwlad yn unig), a’r dewis iaith a ddefnyddir i ddangos ein gwefan.

Mae Hotjar yn cadw’r wybodaeth hon ar ein rhan mewn proffil defnyddiwr sydd wedi cael ffugenw. Mae gwaharddiad cytundebol rhag i Hotjar werthu unrhyw elfen o’r data a gesglir ar ein rhan. I gael manylion pellach, gweler adran ‘about Hotjar’ Hotjar’s support site.

Mae Hywel Dda University Health Board hefyd yn casglu’r data defnydd canlynol mewn perthynas ag Academi Iechyd Digidol ORCHA (sy’n hygyrch i’r holl Ddefnyddwyr Pro) yn fewnol:

  • Cyrsiau’r Academi a gyrchwyd
  • Cynnydd ar gyrsiau’r academi a gyrchwyd
Sut rydym yn cael y wybodaeth hon a pham y mae gennym

Mae Hywel Dda University Health Board yn casglu'r wybodaeth hon drwy eich rhyngweithio â llwyfan ORCHA a thrwy eich rhyngweithio uniongyrchol â ni fel cwmni. Rydym yn ei chasglu er mwyn sicrhau y gallwn ddarparu holl swyddogaethau llwyfan ORCHA i chi, ac unrhyw wasanaeth ychwanegol y byddwch yn gwneud cais uniongyrchol i ni amdanynt. Rydym hefyd yn defnyddio’r data er mwyn deall sut mae defnyddwyr yn rhyngweithio â’r llwyfan fel y gallwn addasu a gwella’r llwyfan yn barhaus ar gyfer ein defnyddwyr.Dim ond y nifer lleiaf o eitemau data y mae eu hangen er mwyn sicrhau y darperir y gwasanaethau gofynnol y bydd Hywel Dda University Health Board yn eu cipio.

Sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth

Mae Hywel Dda University Health Board yn defnyddio’r wybodaeth a roddwch i ni:

  • i anfon gwybodaeth, cynnyrch neu wasanaethau yr ydych wedi cydsynio i’w derbyn atoch
  • i wella’r wybodaeth, y cynnyrch a’r gwasanaethau y mae Hywel Dda University Health Board yn eu cynnig i’w defnyddwyr. (Mae hynny’n cynnwys gwella ein gallu i ddethol Apiau Iechyd yn benodol ar gyfer eich angen iechyd/oed/dewisiadau a gwella’r wefan yn gyffredinol ac adolygu swyddogaethau a chyflwyniad y wefan)
  • i gysylltu â chi ynglŷn â digwyddiadau, gweithgaredd codi arian, ymgyrchu a’n gwaith arall, pan fyddwch wedi cydsynio i dderbyn gwybodaeth farchnata
  • i ddatblygu adroddiadau a dadansoddiadau cyfanredol, gan ddefnyddio data dienw, er mwyn cefnogi ymchwil i ddatblygiad ehangach parhaus y farchnad Apiau Iechyd a’r defnydd o Apiau Iechyd o fewn Economi Iechyd ddiffiniedig

Gallai ORCHA, fel Prosesydd Data, gysylltu data a gipiwyd o wahanol wasanaethau ORCHA (e.e. Academi Iechyd Digidol ORCHA), ar lefel bersonol, er mwyn gwella ein dealltwriaeth o’r defnydd o wasanaethau ac i gefnogi dadansoddiadau ynglŷn â’r defnydd o safleoedd a gweithgaredd arnynt, ond ni fydd ORCHA fyth yn cyhoeddi, yn rhannu nac yn gwerthu data y mae modd eu defnyddio i adnabod unigolion heb dderbyn cydsyniad pendant, a gwybodus gan yr holl bartïon y bydd eu data’n cael eu defnyddio at y dibenion hynny.

Sut rydym yn cadw ac yn rheoli eich data?

Mae datrysiad llwyfan ORCHA Azure yn cael ei letya ar Azure ac yn defnyddio model rhwydweithio Prif Ganolfan a Lloerennau. Mae unrhyw Wybodaeth Iechyd Claf electronig (ePHI) yn gorwedd o fewn awdurdodaeth ddaearyddol y cleient fel y gellir cadw at gyfreithiau llywodraethu lleol. Er enghraifft, byddai ePHI cleient yn y DU yn cael ei letya yng Nghanolfan Ddata Azure UK South ac yn cadw at gyfreithiau GDPR. Byddai data ePHI cleient yng Nghanada yn cael ei letya gan Azure yng Nghanada mewn ffordd sy’n cadw at gyfreithiau cydymffurfio lleol. Caiff ePHI eu cadw yn y Lloerennau lleol hyn tra bydd holl ddata eraill y system yn cael eu cadw yn y Brif Ganolfan sy’n cael ei lletya yn Azure UK South. Mae’r holl ddata wedi’i amgryptio lle mae’n gorwedd.Mae’r holl gyfathrebu Azure i Azure o fewn y llwyfan a letyir gan ORCHA yn digwydd trwy asgwrn cefn Azure. Yn ychwanegol at hynny, caiff amgylcheddau eu lletya o fewn Rhwydweithiau Rhithiol. Mae un pwynt mynediad ar gyfer yr holl ddata, sef trwy Azure Front Door ac yna trwy Fur Gwarchod ac yna i’r Brif Ganolfan. Unwaith y ceir mynediad i’r Brif Ganolfan, gellir gwneud cais am ddata gan unrhyw un o’r Lloerennau. Bydd unrhyw ddata a drosglwyddir allan o’r system yn mynd yn ôl trwy’r Mur Gwarchod ac yna drwy Azure Front Door.Darperir mynediad i’r amgylchedd Cynhyrchu drwy letywr Bastion (Jump Box) a gall defnyddwyr sicrhau mynediad Bwrdd Gwaith Pell i’r peiriant hwnnw. Er mwyn cael mynediad i hyn, mae angen i’r defnyddiwr fod â chyfrif Azure Active Directory a bod â’r lefelau caniatâd cywir wedi’u pennu. Ni ddefnyddir data cynhyrchu at ddibenion adrodd.

Sut ydyn ni'n diogelu gwybodaeth bersonol?

Mae Hywel Dda University Health Board yn rhoi nifer o fesurau gwahanol ar waith er mwyn sicrhau y caiff unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei darparu i ni yn cael ei chadw yn ddiogel, yn gywir ac wedi’i diweddaru.Mae mesurau diogelu Hywel Dda University Health Board yn cynnwys:

  • adolygiadau rheolaidd ar brosesau cipio data er mwyn sicrhau mai dim ond data sy’n angenrheidiol i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau’r llwyfan sy’n cael eu cipio
  • Dulliau tryloyw, hysbysol, gydag optio i mewn ar gyfer cipio cydsyniad er mwyn sicrhau bod holl ddefnyddwyr y llwyfan yn deall pam mae Hywel Dda University Health Board yn casglu eu data a sut mae ORCHA yn prosesu ac yn rheoli’r data hynny.
  • Mae’r llwyfan yn darparu swyddogaeth ble gall defnyddwyr ddileu eu cydsyniad petai eu dewisiadau’n newid. Mae'r swyddogaeth hon ar gael yn adran ‘Fy Nghyfrif: Eich hawliau dan GDPR’ ar bob llwyfan a ddarperir gan ORCHA.
  • Bydd defnyddwyr sy’n dewis peidio â darparu unrhyw ddata y mae modd eu hadnabod yn bersonol trwyddynt, yn gallu parhau i ddefnyddio'r llwyfan fel arfer, ond ni fydd holl swyddogaethau’r llwyfan ar gael i’r defnyddwyr hynny.
  • Amgryptio cryf ar yr holl ddata wrth iddynt drosglwyddo rhwng y safleoedd/Apiau i gyfleusterau storio data diogel gan ddefnyddio amgryptio 256 did.
  • Mae’r holl gronfeydd data sy’n gysylltiedig â’r llwyfan yn cael eu diogelu o fewn amgylchedd wedi’i letya Microsoft Azure sy’n cydymffurfio â GDPR lleol a rheoliadau rhanbarthol eraill.
  • Mae mynediad at ddata a gesglir drwy ryngweithrediadau’r llwyfan â defnyddwyr terfynol ein gwasanaethau, wedi’i gyfyngu i’r Gweinyddwyr Data sydd â’r caniatâd priodol yn unig
  • Gwneir copïau wrth gefn o gydrannau allweddol y system ar draws nifer o leoliadau ynysig ac mae’r system yn monitro defnydd o’r gwasanaeth yn barhaus er mwyn rhoi seilwaith ar waith i gefnogi ymrwymiadau ac anghenion argaeledd.
  • Mae Hywel Dda University Health Board yn cadw data y gellir eu defnyddio i adnabod unigolion am gyfnod o 2 flynedd wedi i gyfrif gael ei gau at ddibenion cyfreithiol ac archwilio. Wedi’r cyfnod hwn, caiff yr holl eitemau data y gellir eu defnyddio i adnabod unigolion eu dinistrio yn unol â safonau dinistrio data ymarfer gorau.
Trydydd Partïon

Ni fydd Hywel Dda University Health Board nac ORCHA yn trosglwyddo eich manylion personol i bobl, nac i sefydliadau eraill, heb gael eich cydsyniad yn gyntaf.Mae Hywel Dda University Health Board neu ORCHA yn cadw’r hawl i rannu eich data cyfanredol gyda chwmnïau eraill sy’n eiddo i ni, neu gwmnïau eraill sy’n ein helpu i ddarparu unrhyw rai o’n gwasanaethau. Gall fod achlysuron prin pan fydd gwybodaeth yn cael ei chasglu trwy gasgliadau dydd-i-ddydd data’r llwyfan, ble mae’r data yn dangos angen clir i ddiogelu lles yr unigolyn a/neu ei deulu/theulu ac, ar yr achlysuron hynny, gall fod angen cysylltu ag awdurdodau perthnasol er mwyn rhoi sylw i hyn. Dim ond yn unol â chanllawiau cyfreithiol priodol y bydd Hywel Dda University Health Board yn cyflawni’r gweithredoedd hyn, a chan ddefnyddio prosesau ffurfiol, cydnabyddedig, ac archwiliadwy.

Eich cydsyniad

BDrwy ddarparu gwybodaeth bersonol i Hywel Dda University Health Board, mae’r defnyddiwr terfynol yn cytuno i ddefnydd ORCHA o’r wybodaeth honno yn unol â’r hyn a ddatgenir yn y Polisi Preifatrwydd hwn.Mae eich cydsyniad i ddefnyddio gwasanaethau Hywel Dda University Health Board wedi’i gynnwys ym mhroses gofrestru’r llwyfan a bydd yn rhoi gwybod yn eglur i’r defnyddiwr adeg y cofrestru pam mae’r data rydyn ni’n gofyn amdanynt yn angenrheidiol a sut bydd y data hynny’n cael eu defnyddio gan Hywel Dda University Health Board.Mae proses gydsynio Hywel Dda University Health Board yn ei gwneud yn ofynnol i bob defnyddiwr terfynol optio i mewn yn rhagweithiol i ystod o wasanaethau’r llwyfan, gyda gwybodaeth yn cael ei darparu i egluro pob opsiwn cyn arwyddo.Gellir newid dewisiadau cydsyniad ar unrhyw adeg. Mae’r swyddogaeth i ddileu Cydsyniad yn cael ei ddarparu o fewn adran ‘Fy Nghyfrif’ ar y llwyfan.

Defnyddwyr o dan 18 oed

Ar gyfer defnyddwyr sydd o dan 18 oed, mae angen caniatâd rhiant/gwarcheidwad cyn i unrhyw wybodaeth bersonol yn ymwneud â’r unigolyn gael ei chipio.Os ydych yn credu bod defnyddiwr dan oed wedi creu cyfrif Hywel Dda University Health Board yn anghywir, rhowch wybod i dîm Hywel Dda University Health Board trwy dpo.hdd@wales.nhs.uk

Eich hawliau diogelu data

Dan gyfreithiau diogelu data, mae gennych hawliau sy’n cynnwys:

Eich hawl i fynediad

YMae gennych hawl ar unrhyw adeg i ofyn am gopi o’r wybodaeth y mae Hywel Dda University Health Board yn ei chadw amdanoch chi, a bydd Hywel Dda University Health Board yn darparu’r data hynny i chi yn unol â’r anghenion cyfreithiol iddynt wneud hynny.

Eich hawl i gywiro

Mae gennych hawl i ofyn i Hywel Dda University Health Board gywiro gwybodaeth rydym yn ei chadw sydd yn anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hawl hefyd i ofyn i Hywel Dda University Health Board gwblhau gwybodaeth sydd yn anghyflawn yn eich barn chi.

Eich hawl i ddileu

Mae gennych hawl i ofyn i Hywel Dda University Health Board ddileu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau.

Eich hawl i gyfyngu ar brosesu

Mae gennych hawl i ofyn i Hywel Dda University Health Board gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth mewn rhai amgylchiadau.

Eich hawl i wrthwynebu prosesu

Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau.

Eich hawl i gludadwyedd data

Mae gennych hawl i ofyn i Hywel Dda University Health Board drosglwyddo'r wybodaeth a roddoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, mewn rhai amgylchiadau.

Nid oes angen i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau. Os byddwch yn gwneud cais, mae gan Hywel Dda University Health Board un mis i ymateb i chi. Fodd bynnag, mae Hywel Dda University Health Board yn anelu at ddarparu ymateb i bob Cais Hawliau Data o fewn 24 awr, gyda’r holl weithredoedd cysylltiedig yn cael eu cwblhau o fewn saith diwrnod gwaith. Cysylltwch â ni yn dpo.hdd@wales.nhs.uk os ydych yn dymuno gwneud cais am unrhyw newidiadau i’r data y mae Hywel Dda University Health Board yn eu cadw amdanoch neu i ddileu eich cydsyniad. Nodwch ym mhennawd eich e-bost pa hawl neu hawliau rydych yn dymuno eu harfer.

Newidiadau

Os bydd eich manylion personol yn newid, byddwch cystal â helpu tîm Hywel Dda University Health Board i sicrhau bod y manylion diweddaraf yn gywir drwy ddweud wrthym am unrhyw newidiadau.Os ydych chi eisiau gweld pa wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, neu bod angen i chi ddweud wrthym am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth rydych wedi ei rhoi i ni, cysylltwch â:

Swyddog Diogelu Data,,
dpo.hdd@wales.nhs.uk

Gallwn newid y Datganiad Preifatrwydd hwn unrhyw adeg. Os byddwch chi’n defnyddio’r wefan hon wedi i newidiadau gael eu gwneud, byddwch yn cytuno i’r newidiadau hynny.

Sut i gwyno

Yn y man cyntaf, cysylltwch â swyddog diogelu data Hywel Dda University Health Board yn dpo.hdd@wales.nhs.uk Os byddwch chi’n dal yn anfodlon, gallwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), os byddwch yn anhapus â’r ffordd rydym wedi defnyddio’ch data. Cyfeiriad yr ICO: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, CymruYr Ail Lawr, Tŷ Churchill Ffordd Churchill Caerdydd CF10 2HH. Rhif Llinell Gymorth: 0330 414 6421

Ein defnydd o gwcis

CMarcwyr testun bach ydy cwcis sy’n cael eu storio ar eich cyfrifiadur ac yn ein galluogi i ddeall sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan.Nid oes unrhyw wybodaeth y byddai modd ei defnyddio i adnabod unigolion yn cael ei chadw mewn cwcis. Fel y gwna nifer o wefannau tebyg, mae llwyfan ORCHA yn eu defnyddio i helpu i gofio dewisiadau ac ar gyfer mesuriadau ystadegol dienw - er enghraifft, er mwyn i ni gael gwybod faint o “ymweliadau” sydd wedi bod â thudalen.Mae’r llwyfan yn defnyddio cwcis i:

  • gofio gwybodaeth benodol am ddefnyddwyr fel nad oes rhaid iddyn nhw ddarparu'r wybodaeth honno dro ar ôl tro
  • sylweddoli a yw defnyddwyr wedi mewngofnodi eisoes i rannau penodol o’r wefan
  • mesur sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan fel y gallwn ni wella’n barhaus ar y ffordd y mae gwybodaeth yn cael ei darparu.

Gallwch chi reoli a dileu cwcis er nad yw’r llwyfan yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth amdanoch y byddai modd ei ddefnyddio i’ch adnabod fel unigolyn. Os ydych chi’n dal eisiau cyfyngu ar gwcis neu eu rhwystro, gallwch chi wneud hynny drwy’r porwr gwe rydych wedi’i ddewis (Internet Explorer, Google Chrome, Mozilla Firefox ac ati). Defnyddiwch y swyddogaeth help yn y porwr penodol i gael gwybod sut i wneud hyn. Fodd bynnag, os byddwch chi’n cyfyngu cwcis ar gyfer gwefan Hywel Dda University Health Board, yna bydd risg na fyddwch yn gallu cael mynediad at holl swyddogaethau gwefan Hywel Dda University Health Board a gallai eich profiad defnyddiwr gael ei danseilio o ganlyniad.

Pa gwcis a ddefnyddir ar safleoedd llwyfan ORCHA?

Y cwcis a ddefnyddir ar wefannau llwyfan ORCHA ydy:

  • Google Analytics - dyma wasanaeth rydym yn ei ddefnyddio gan Google sy’n casglu gwybodaeth ynglŷn â’r ffordd y mae pobl yn defnyddio ein gwefan. Rydym yn gwneud hyn er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth gorau y gallwn i ymwelwyr â’n gwefan. Nid oes modd defnyddio’r wybodaeth hon i’ch adnabod chi a dim ond at ddefnydd mewnol Hywel Dda University Health Board y mae ar gael. Nid yw Hywel Dda University Health Board yn caniatáu i Google ei rhannu. Drwy ddefnyddio cwcis, mae Google Analytics yn casglu gwybodaeth sy’n galluogi Hywel Dda University Health Board i ddeall:
    • Pa dudalennau yr edrychwyd arnynt
    • Am faint o amser yr edrychwyd ar y tudalennau hynny
    • Sut daeth y defnyddiwr i’r safle
    • Pa fotymau a swyddogaethau ar y wefan y cliciwyd arnynt
    • Pa borwr a ddefnyddiwyd i gael mynediad i’r safle
    • O ba wlad y mae’r cyfrifiadur yn cyrchu’r wefan
    • Pa dermau chwilio a ddefnyddiwyd
  • System Rheoli Cynnwys HubSpot (Joomla) – Dyma’r system y mae llwyfan ORCHA yn ei defnyddio i adeiladu’r wefan a diweddaru’r tudalennau. Yn yr un modd â Google Analytics, mae’r system hon hefyd yn casglu gwybodaeth am nifer yr ymweliadau â thudalen a sawl gwaith y caiff ffeil ei lawrlwytho (e.e. ffeiliau PDF o’n hadroddiadau ymchwil a’n briffiau)
  • Gosodir cwcis pan fyddwch yn ymweld â gwefan Hotjar yn hotjar.com a gallwch chi optio allan o gwcis nad ydynt yn hanfodol sydd wedi cael eu gosod. Mae Cod Tracio Hotjar yn cael ei osod ar hotjar.com hefyd a gallai cwcis sy’n benodol i God Tracio Hotjar gael eu gosod hefyd.
  • Cwcis trydydd parti – Mae nodwedd "Rhannu hwn" ar nifer o’n tudalennau sy’n caniatáu i chi rannu cynnwys â’ch ffrindiau neu gyd-weithwyr trwy e-bost, Twitter, Facebook ac ati. Mae llwyfan ORCHA yn defnyddio cwcis i alluogi’r gwasanaeth hwn i weithio. Mae’n darparu gwybodaeth am yr eitemau y mae defnyddwyr y wefan wedi’u rhannu, faint o bobl sy’n rhannu a sawl gwaith yr “edrychwyd” ar dudalennau ar wefan llwyfan ORCHA o ganlyniad i’r rhannu hwn. Fel y nodwyd uchod, nid yw’r data hyn yn cynnwys gwybodaeth sy’n fodd i adnabod defnyddwyr llwyfan ORCHA yn bersonol.
  • Cwcis a osodir gan wefannau eraill - Os ydych yn defnyddio’r cyfleuster rhannu y cyfeiriwyd ato uchod (h.y. Rhannu cynnwys gyda Facebook, Twitter) yna mae’n bosibl y bydd y gwefannau hynny (e.e. Facebook) hefyd yn gosod cwcis wrth i chi fewngofnodi i’w gwasanaeth. Nid yw Hywel Dda University Health Board yn gyfrifol am gwcis trydydd parti o’r math hwn ac nid yw’n rheoli’r cwcis hyn.
  • Gwasanaethau trydydd parti planedig - Ambell waith, byddwn yn plannu eitemau fel clipiau fideo, sain a lluniau o wefannau eraill megis YouTube, Vimeo, Flickr neu Soundcloud. Mae hyn yn golygu bod tudalen yn edrych fel un o’n tudalennau gwe ni, ond mae’r fideo’n cael ei ffrydio o wefan arall (h.y. YouTube). Pan gyrchir cynnwys planedig fel hyn trwy wefan Hywel Dda University Health Board, gall perchnogion gwefan y cynnwys hwnnw ddefnyddio eu cwcis eu hunain i gofnodi eich bod chi wedi edrych ar y cynnwys neu ei wylio. Nid oes gan Hywel Dda University Health Board unrhyw reolaeth dros y cwcis hyn felly dylech wirio’r wefan berthnasol i gael rhagor o wybodaeth.